June 2016
Survey to map voluntary sector organisations working with young people in Wales
Do you work in a voluntary sector organisation operating in Wales whose work supports young people aged 14-18 to engage or remain engaged in education, training and employment?
Cordis Bright would like you to share information about your organisation with us.
Please complete an online questionnaire available here.
The deadline for completing the questionnaire is 5pm on Sunday 17 July 2016.
Why is Cordis Bright collating information about voluntary sector organisations?
The Welsh Government has commissioned Cordis Bright to undertake a national mapping exercise to gather information about voluntary sector provision that can support young people aged 14-18 to engage or remain engaged with education, training and employment (ETE). The aims of the mapping exercise are to:
- Raise the profile of voluntary sector organisations working in this field.
- Enhance the local provision maps used by lead workers who support young people who are not in school or further education, employment or training (NEET) or who are at risk of disengaging from school or becoming NEET.
- Encourage closer partnership working between the voluntary and public sectors.
- Support delivery of the Youth Engagement and Progression Framework to ensure that young people are supported to engage and progress within ETE.
What are the benefits to my organisation of participating in the mapping exercise?
By participating in the mapping exercise, you can:
- Increase awareness of your organisation amongst professionals working with young people.
- Ensure that these professionals have accurate information about why and how to refer young people to your programmes/projects.
- Support improved information sharing and partnership working for the benefit of young people.
- Contribute to a more complete picture of voluntary sector provision to support young people aged 14-18 to engage and progress within ETE.
How will Cordis Bright collate and share the information?
The information you provide will be included in a map of voluntary sector provision. At the end of the mapping exercise, each local authority area will be provided with a map of voluntary sector provision operating in their area.
The maps are unlikely to include all voluntary sector organisations operating in the area, but will include all organisations which have returned a completed information template to Cordis Bright. It is intended as a starting point, which can be reviewed and developed over time by those working in each local authority area.
Further information
Please only complete this template if you are a voluntary sector organisation working in Wales. Private companies and local authority provision will not be included in the maps.
Support for young people aged 14-18 to engage, or remain engaged in, ETE can include:
- Services/programmes directly offering ETE opportunities to young people.
- Services/programmes building young people’s soft skills to enable them to engage/remain engaged with ETE opportunities or offering additional support to enable them to engage (e.g. mentoring).
- Services/programmes supporting a young person to address other issues which might be negatively impacting on their ability to engage with ETE (e.g. mental health services, housing, family support services, substance misuse services).
If you work for an organisation that delivers more than one distinct programme/project, please complete a separate template for each programme/project. Distinct programmes/projects might include those with different target audiences, eligibility criteria, referral processes, delivery methods and/or intended outcomes.
If you would like to discuss the mapping exercise or need advice on completing the template, please contact Hannah Nickson on hannahnickson@cordisbright.co.uk or 020 7330 9170.
Thank you for your participation
Many thanks in advance for your time in completing the questionnaire. Your participation is very important in ensuring that the mapping exercise is successful.
Ydych chi’n gweithio mewn sefydliad sector gwirfoddol y mae ei waith yn cynorthwyo pobl ifanc 14-18 oed i gymryd rhan ac aros mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth?
Byddem ni (Cordis Bright) yn hoffi i chi rannu gwybodaeth am eich sefydliad gyda ni.
Llenwch holiadur ar-lein: https://www.surveymonkey.co.uk/r/mapcym.
Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r holiadur yw dydd Sul 17 Gorffennaf 2016 am 5pm.
Pam mae Cordis Bright yn casglu gwybodaeth am sefydliadau’r sector gwirfoddol?
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cordis Bright i gynnal ymarfer mapio cenedlaethol i gasglu gwybodaeth am ddarpariaeth y sector gwirfoddol sy’n gallu cynorthwyo pobl ifanc 14-19 oed i gymryd rhan ac aros mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Nod yr ymarfer mapio yw:
- Codi proffil y sefydliadau sector gwirfoddol sy’n gweithio yn y maes hwn.
- Gwella mapiau darpariaeth leol a ddefnyddir gan weithwyr arweiniol sy’n cynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn addysg ysgol neu bellach, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu sydd mewn perygl o ddieithrio o’r ysgol neu o fynd ymlaen i fod yn NEET.
- Annog gwaith partneriaeth agosach rhwng y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.
- Cefnogi’r gwaith o ddarparu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi i gymryd rhan a gwneud cynnydd mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Pa fanteision gaiff fy sefydliad o gymryd rhan yn yr ymarfer mapio?
Drwy gymryd rhan yn yr ymarfer mapio gallwch:
- Gynyddu ymwybyddiaeth o’ch sefydliad ymysg gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc.
- Sicrhau bod gan y gweithwyr proffesiynol hyn wybodaeth gywir am pam a sut i atgyfeirio pobl ifanc i’ch rhaglenni/prosiectau.
- Cefnogi trefniadau rhannu gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth gwell er lles pobl ifanc.
- Cyfrannu at ddarlun mwy cyflawn o ddarpariaeth y sector gwirfoddol i gynorthwyo pobl ifanc 14-18 oed i gymryd rhan a gwneud cynnydd mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Sut y bydd Cordis Bright yn casglu a rhannu’r wybodaeth?
Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei chynnwys mewn map o ddarpariaeth y sector cyhoeddus. Ar ddiwedd yr ymarfer mapio bydd pob ardal awdurdod lleol yn derbyn map o ddarpariaeth sector gwirfoddol sy’n gweithredu yn eu hardal.
Nid yw’r mapiau yn debygol o gynnwys yr holl sefydliadau sector gwirfoddol sy’n gweithredu yn yr ardal, ond byddant yn cynnwys yr holl sefydliadau sydd wedi dychwelyd templed gwybodaeth wedi’i llenwi i Cordis Bright. Bwriedir iddo fod yn fan dechrau, y gellir ei adolygu a’i ddatblygu dros amser gan y rhai sy’n gweithio ym mhob ardal awdurdod lleol.
Rhagor o wybodaeth
Dim ond sefydliadau sector gwirfoddol ddylai gwblhau’r templed hwn. Ni fydd cwmnïau preifat a darpariaeth awdurdod lleol yn cael eu cynnwys yn y mapiau.
Gall cymorth i bobl ifanc 14-18 oed gymryd rhan neu aros mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth gynnwys:
- Gwasanaethau/rhaglenni sy’n cynnig cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth uniongyrchol i bobl ifanc.
- Gwasanaethau/rhaglenni sy’n meithrin sgiliau meddal pobl ifanc i’w galluogi i gymryd rhan/aros mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth neu gynnig cymorth ychwanegol fel y gallant gymryd rhan (e.e. mentora).
- Gwasanaethau/rhaglenni sy’n cynorthwyo unigolyn ifanc i fynd i’r afael â materion eraill a allai fod yn effeithio’n negyddol ar ei allu i gymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth (e.e. gwasanaethau iechyd meddwl, tai, gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau).
Os ydych chi’n gweithio i sefydliad sy’n darparu mwy nag un rhaglen/prosiect penodol, dylech gwblhau templed ar wahân ar gyfer pob rhaglen/prosiect. Gall rhaglenni/prosiectau penodol gynnwys y rhai â chynulleidfaoedd targed, meini prawf cymhwysedd, prosesau atgyfeirio, dulliau darparu a/neu ganlyniadau bwriedig gwahanol.
Os hoffech drafod yr ymarfer mapio neu os oes angen cyngor arnoch ar gwblhau’r templed, cysylltwch â Hannah Nickson ar hannahnickson@cordisbright.co.uk neu ffoniwch 020 7330 9170.
Diolch i chi am gymryd rhan
Diolch ymlaen llaw am gymryd amser i lenwi’r holiadur hwn. Mae eich cyfraniad yn bwysig iawn i sicrhau bod yr ymarfer mapio’n llwyddiannus.